Credaf felly fy mod yn athrawes frwdfrydig iawn sydd bob amser yn barod i roi o'm gorau i'r dysgwyr. Rwyf yn ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn fy ngofal yn llwyddo i gyrraedd ei lawn botensial a datblygu sgiliau newydd. Hyderaf fod gennyf y gallu i droi fy llaw at addysg gynradd a byddwn wrth fy modd yn cael profiadau newydd. Gan fod gennyf dri o blant fy hun teimlaf fy mod yn dda iawn am ddangos empathi tuag at ddysgwyr yn y dosbarth a'u trin yn deg a charedig. Rwyf yn berson cyfrifol sydd yn cyd-weithio'n wych gyda aelodau eraill yr Adran Gymraeg ac rwy'n sicr y byddwn yn defnyddio'r sgiliau hyn mewn unrhyw ysgol arall.
Rwyf yn athrawes brofiadol a brwdfrydig iawn sydd wedi gweithio yn yr Adran Gymraeg yn Ysgol Morgan Llwyd ers dros ugain mlynedd. Rwyf wrth fy modd gyda'r dysgwyr ac yn parhau i gael pleser mawr o'u haddysgu a bod yn eu cwmni. Meddaf ar sgiliau cyfathrebu cryf ac rwyf bob amser yn barod i gynnig syniadau a rhoi cymorth i eraill wrth greu adnoddau ac asesu. Yn ystod fy nghyfnod yn Morgan Llwyd rwyf wedi cael y profiad o fod yn Bennaeth yr Adran Gymraeg ddwy waith yn ystod cyfnod mamolaeth ac felly wedi datblygu sgiliau arwain cryf ac hefyd wedi arfer gweithio o dan bwysau. Credaf fy mod yn berson hwyliog sydd a sgiliau cyfathrebu cryf ac sydd hefyd yn barod i gyd-weithio'n rhwydd ag eraill.
Sgiliau cyfathrebu da
Cyd-weithio'n hyderus ag eraill
Gweithio'n annibynnol
Gweithio o dan bwysau ac i derfynau amser penodol
Wedi gweithio ar ddatblygu ac addasu cynlluniau gwaith yn unol a'r Cwricwlwm i Gymru
Amyneddgar