Rwyf yn addysgwr proffesiynol gyda phrofiad helaeth o addysgu dysgwyr iaith gyntaf ac ail-iaith gan feithrin eu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu yn ystod y cyfnod. Rwyf yn un sydd yn falch iawn o'm sgiliau cyfathrebu, gyda dysgwyr a chyd-weithwyr gan feithrin perthnasau cadarnhaol gyda'r carfannau hynny. Rwyf yn brofiadol wrth ddefnyddio technegau dysgu cyfunol o fewn yr ystafell ddosbarth gan ddefnyddio technoleg i ddarparu profiadau byw a chyfoes i ddysgwyr. Mae gen i brofiad o arwain a chefnogi prosiectau adrannol a bugeiliol i ddatblygu cynnydd a lles dysgwyr.
Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Rhagoriaeth)